Real Rock Riddim 

09/22/2023

Riddim Rock Go lawn

Real Rock Riddim yn rhedeg yn fy ngwaed,
Sefyll ar fy nwylo a menig ar fy nhraed,
Di popeth ddim mor hawdd a botwm dan dy fawd,
Dwi'n meddwl am y pethau bach sy"n poeni pawb.
Rho i mi Reggae Riddim, breuddwydio swn gitar, 
Gore'n byd rhoid gorffwys i fy llygaid swar,
Dwi'n methu y mynyddoedd a hiraeth am y môr, 
A'r adar bach yn canu yn y coed fatha côr.
Dwi isio mynd allan heno, ond dim heb Meri Jen, 
Dwi'n licio sut mai 'n neud fi deimlo wastad hefo gwên,
D'ir pubs 'ma byth yn chwarae Riddim Rock go awn,
A finnau wedi bod yn paratoi twy'r prynhawn.

O o o oar y Riddim Rock go awn,
O o o o gwrando ar y Riddim Rock go lawn

Aur y byd yw'r miwsig sy'n codi calon las,
Troi y speakers fyny dwi 'sio teimlo swn y bas.
Dawnsio yn y gegin neu'n gyrru yn y car,
Lle bynnag fyddai'n chilio mae 'na wastad miwsig ar.
Di trio heavy metal, a jazz, punk, soul a pop
Ond 'snam byd yn taro'r spot fatha reggae one drop, 
Gai byth o fy siomi, fydd fy enaid byth yn llawn,
Nes fyddai wedi gwrando ar y Riddim Rock go awn.

Ooo oar y Riddm Rock go lawn.
0 o o o gwrando ar y Riddm Rock go lawn

Hedfan yn y gofod fel seren yn y nen,
Atgofion fel galaethau yn llenwi'm mhen,
Methu mynd i gysgu, dwi'n clywed atsain y beat,
Waiting for the bass to come and knock me off my feet.
Dilyn Ilwybr Ilaethog sydd yn ein tywys ni,
Trwy anturiaethau amser cyn sylweddoli,
Fod na reswm am fodolaeth, pob seren, mor a galaeth,
Wedi 'iw good yn eu lle er mwyn reggae heb amheuaeth.
Byw a bod i ddod o hyd i enaid rhydd,
Anodd yn y dechrau ond fe ddaw ryw ddydd,
Eistedd rownd y tân yn canu a chwerthin,
Pawb yn llawn direidi pasio'r mwg a'r gwin.

O o o oh ar y Riddm Rock go awn,
O o o oh gwrando ar y Riddm Rock go awn. 

Real Rock Riddim was first released in 1973 by Jamaican supergroup, Sound Dimensions and has since been used as a dub plate by many great reggae artists perhaps most famously Willie Williams and Clash with the song Armagideon Time and recently by young Jamaican artisr Koffee. Here is Morgan elwy's take!