Curo Ar Y Drws

09/22/2023

Ti'n hoffi sôn amdan dy hun,
Ble ti 'di bod a lle ti'n ffitio yn y llun,
Hanesion trist y dyddiau ffôl,
Ar creithiau dyfn sy'n dy ddal di yn ôl.

Tisio mynd nôl i ddyddiau cynt,
Agor dy adain a dilyn y gwynt,
Rwan mae'r llefydd da I gyd ar gau
Dim ond ti, ar nos yn parhau.

Curo ar y drws ac fe ddaw hogan tlws cyn y bore,
Mae caru'n well na cwsg, rhaid 'chi gau y drws ar eich hole.

Rwan sgen ti ddim byd gwell i neud,
Ti'n poeni gormod am be mae pobol yn ddeud,
Ti'n byw yn dda ond ti ar chwâl.
Y cythraul ar dân ac y diafol yn dial.

Curo ar y drws, curo ar y drws...
Curo ar y drws ac fe ddaw hogan tlws cyn y bore,
Mae caru'n well na cwsg, rhaid 'chi gau y drws ar eich hole