Aros i Weld (ft Mared)

09/22/2023


Aros i weld

Wrth i ti edrych i fy llygaid i
Wyt ti'n gweld beth o ni pan o ni'n iau
Pan odd o jest nin dau
Paid gadael i'r byd fy niflannu i
Dwi'n dal i gredu fo ni'n rhydd
Paid colli ffydd.

Aros i weld sut fu ni yn y bore
Digon hawdd anghofio yn y tonnau,
Dwi 'sïo'i ti fod yn hapus wrth ein boddau,
Aros i weld, Aros i weld.

Oes yna rywle tisio mynd ?
Gad i mi ddod gyda ti fy ffrind
Dwim isio mynd fy hun
Maddeu i fi os wyt tin teimlo'n gaeth,
Wyt tin cofior mor y tir ac y traeth,
Cyn i ni fynd yn waeth.

Aros i weld sut fu ni yn y bore,
Digon hawdd anghofio yn y tonnau,
Dwi 'sïo'i ti fod yn hapus wrth ein boddau,​
Aros i weld, Aros i weld.

Dwi'n dechrau dallt, dwi'n sylweddoli
Dwi'n gally bod yn fwrn arnat ti fatha ti arnaf fi
Camu yn nol a dwi'n gweld yn glir
Dwi'm yn gwybod bellach be sy'n wir,
Mai 'di bod yn rhy hir.