Jericho

09/22/2023

Diffodd y golau, cau y llen, dal i chwifio'r faner wen.

Tu hwnt i waliau jericho, heddwch a helynt yn mynd a dod.

Yn y tywyllwch ers amser hir, colli rhyddid mewn anial dîr.

Yng nghysgod sycamorwydden nawr, mae'r faner wen ar y llawr.

Ti'n well os nad wyt ti'n gwybod,

A smalio fod ddim byd yn bod,

Ble dyfai'r palmwydd yn eu tro,

Tu ôl i waliau Jericho.

Yn nyffryn y Iorddonen ddofn, mae'r pobl nawr yn byw mewn ofn

Israel ac America, di dod i ddwyn Palesteina,

Trwy lygaid baban mae pawb yn un, Estron ddyn yn wlad ei hyn.

Pobl Allah a pobol Dduw, i gyd yn rhan o ddynol ryw.

Ti'n well os nad wyt ti'n gwybod,

A smalio fod ddim byd yn bod,

Ble dyfai'r palmwydd yn eu tro,

Tu hwnt i waliau Jericho.

Mae 'na reswm am bod dim, Duw yn testio nerth ei rym,

Rhwng Zion, Babylon a Iesu Grist, safai hoel ei hanes trist,

Plentyn Ifanc a gwn yn ei law, gwaed yn llifo fel pridd yn y baw,

Weiren bigog a gynnau dur, dilyn llwybr enaid pur

Ti'n well os nad wyt ti'n gwybod,

A smalio fod ddim byd yn bod,

A'r goeden palmwydd yn ein cof,

Tu ol i waliau Jericho.